Mae gofalu wedi bod yn ffordd o fyw i ni ers 1842 a darparwn gartrefi i dros fil o bobl ar draws Cymru a Lloegr – ond cefnogwn lawer mwy na hynny.
P’un ai oes angen gofal preswyl neu ofal nyrsio ar bobl, gofal preswyl i rai gyda dementia neu lety gwarchod, gofalwn amdanynt yn broffesiynol ac yn garedig.
Yn RMBI Care Co, ceisiwn ddarparu gwasanaethau gofal proffesiynol ac unigol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau beunyddiol pobl.
Rydyn ni’n Garedig.
Rydyn ni’n garedig i’n preswylwyr, eu teuluoedd ac i’n gilydd oherwydd credwn yn gryf yn y gofal a ddarparwn. Credwn y dylid trin pawb gydag urddas ac y dylid parchu eu dymuniadau bob amser.
Rydyn ni’n Gefnogol.
Rydyn ni yma i helpu a bod yn gefnogol wrth ofalu am bobl gan roi preswylwyr wrth galon pob dim a wnawn. Rydyn ni’n trin pob person fel unigolyn gan gydnabod y pethau sy’n bwysig iddynt a gweithio fel tîm i gyflawni hyn.
Rydyn ni’n Ddibynadwy.
Rydyn ni’n agored, gonest ac mae pobl yn ymddiried ynom i ddarparu gofal i Seiri Rhyddion, eu dibynyddion a’r gymuned ehangach. Rydyn ni wedi bod yn cefnogi pobl hŷn ers dros 170 o flynyddoedd a gweithiwn yn agos gyda’n preswylwyr, eu teuluoedd a gyda’n gilydd i greu amgylchedd diogel.
Gofalu yw ein ffordd o fyw
Sefydlodd y Gyfrinfa Fawr y Gronfa Les Frenhinol Fasonaidd i ddynion yn 1842 ac i ferched yn 1849.
Yn 1850 agorwyd y Cartref cyntaf yn East Croydon a sefydlwyd hefyd y Sefydliad Lles Masonaidd Brenhinol (RMBI).
Arhosodd y Cartref yn Croydon am dros gan mlynedd tan 1955 pan gafodd ei drosglwyddo i Harewood Court yn Hove ar ôl penderfynu bod angen mwy o le.
Heddiw mae gan RMBI Care Co 18 o gartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr ac mae’n cefnogi Seiri Rhyddion hŷn, eu teuluoedd a phobl yn y gymuned ehangach drwy ddarparu gofal preswyl, nyrsio a chymorth dementia.
1955
Harewood Court, Hove, East Sussex
1966
Devonshire Court, Oadby, Leicestershire
1967
Scarbrough Court, Cramlington, Northumberland
1968
Prince George Duke of Kent Court, Chislehurst, Kent
1971
Connaught Court, Fulford, York
1973
Lord Harris Court, Sindlesham, Berkshire
1973
Albert Edward Prince of Wales Court, Porthcawl, Mid Glamorgan
1977
Ecclesholme, Eccles, Manchester
1977
The Tithebarn, Great Crosby, Liverpool
1979
Queen Elizabeth Court, Llandudno, Conwy
1980
James Terry Court, Croydon, Surrey
1981
Cornwallis Court, Bury St. Edmunds, Suffolk
1983
Zetland Court, Bournemouth, Dorset
1986
Cadogan Court, Exeter, South Devon
1994
Prince Michael of Kent Court, Watford, Hertfordshire
1995
Shannon Court, Hindhead, Surrey
1996
Barford Court, Hove, East Sussex
1998
Prince Edward Duke of Kent Court, Braintree, Essex
2008
Scarbrough Court, Cramlington, Northumberland (re-built on the original site)
2013
Re-build of James Terry Court, Croydon, Surrey
Yn 2016 cafodd y pedair elusen Fasonaidd eu cyfuno i greu’r Sefydliad Elusennol Masonaidd (MCF) a daeth y Sefydliad Lles Masonaidd Brenhinol yn gwmni’r Royal Masonic Benevolent Institution Care Company, neu RMBI Care Co. Am fwy o wybodaeth am y MCF, ewch i www.mcf.org.uk.