Rydyn ni’n hynod werthfawrogol o’r cymorth a roddir gan ein gwirfoddolwyr i’n Cartrefi a’n preswylwyr. I unrhyw un sydd am gael eu hystyried ar gyfer gwirfoddoli, rydyn ni’n gobeithio gallu rhoi cyfle i chi ymarfer eich sgiliau mewn gwahanol amgylchedd ac ennill profiadau newydd, sydd yn ei dro’n gwella bywydau ein preswylwyr.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn un o’n Cartrefi, cysylltwch â’ch Cartref agosaf i gael gair â Rheolwr y Cartref neu’r Rheolwr Cysylltiadau Busnes, fydd yn gallu rhoi mwy o fanylion i chi am beth i’w ddisgwyl.

Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Gwirfoddoli a bod yn barod i gael eich galw i’r Cartref am gyfweliad. I sicrhau cais llwyddiannus, bydd angen i ni dderbyn dau eirda cymeriad neu ddau eirda cyflogaeth bresennol / ddiweddar a bydd hefyd angen i chi gael archwiliad cofnodion troseddol llwyddiannus gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

I’ch helpu i deimlo’n rhan o’r Cartref, byddwch yn mynychu sesiwn gynefino a hyfforddiant ar gyfer gweithgareddau perthnasol. Mae bod yn wirfoddolwr yn golygu bod yn rhan o dîm y Cartref ond ni fydd disgwyl i chi gyflawni dyletswyddau ein staff parhaol.  Dyma rai enghreifftiau o beth y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud:

  • Cyfeillio
  • Cynorthwyo gyda digwyddiadau a gweithgareddau yn y Cartref
  • Cynorthwyo gyda gweithgareddau grŵp, gweithdai a thripiau cymdeithasol
  • Garddio a gweithgareddau addurno
  • Gyrru – ar yr amod bod gennych y drwydded berthnasol ac yn derbyn hyfforddiant priodol.
whois: Andy White Freelance WordPress Developer London Skip to content