Ar gyfer unigolyn a’u teulu, mae derbyn diagnosis ffurfiol o ddementia’n un o’r pethau hynny sy’n newid bywydau ac, yn ddealladwy, gall yn aml ddod ag amryw o wahanol emosiynau ac ofnau yn ei sgîl. Er nad oes iachâd i ddementia eto, mae pethau y gallwn ei wneud i gynorthwyo pobl sy’n byw gyda dementia i fyw bywyd cadarnhaol.
Darparwn ofal mewn ffordd sy’n cefnogi pobl fel unigolion ac yn eu helpu i fwynhau bywyd o ansawdd gwell o ddydd i ddydd. Dathlwn y sgiliau y mae person wedi eu cadw a gweithiwn gyda nhw i’w helpu i aros yn annibynnol ac i ddefnyddio’r sgiliau hynny lle gallwn.
Ceisiwn ddechrau o safbwynt ‘beth y gall person ei wneud’ a sut y gallwn eu cefnogi; gan weithio gyda’r preswylydd, eu teulu a’u hanwyliaid i drafod a gweld beth sy’n bwysig iddynt a cheisio, lle gallwn, ymgorffori’r pethau hyn yn eu bywydau.
Mae holl staff ein cartrefi gofal yn derbyn hyfforddiant sylfaenol mewn dementia; mae staff sy’n gweithio yn ein Tai Cymorth Dementia’n derbyn hyfforddiant ychwanegol i gynorthwyo iechyd a lles preswylwyr gyda dementia drwg.
Os oes gennych ddiddordeb yn y gofal dementia preswyl mewn unrhyw un o’n Cartrefi, cysylltwch â Thîm Rheoli’r Cartref sydd gennych mewn golwg fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am wasanaethau’r Cartref hwnnw.
Anne Child, RMBI Care Co. Prif Arbenigwr Dementia Ymunodd Anne ag RMBI Care Co. fel Arbenigwr Fferyllol a Dementia yn 2016 i gynorthwyo a datblygu’r gofal dementia yn ein Cartrefi.
Fel fferyllydd cymwysedig ers dros 30 o flynyddoedd, mae Anne yn teimlo’n gryf am ei phroffesiwn. Bu’n gweithio fel Fferyllydd Cymunedol, Prif Fferyllydd Iechyd Meddwl mewn PCT, Prif Fferyllydd mewn lleoliad gofal canolraddol cymunedol dan arweiniad nyrsys i bobl hŷn, ac yn fwy diweddar yn darparu gofal dementia uniongyrchol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n gynghorydd arbennig i CQC ac yn parhau i weithio gyda chydweithwyr academaidd ar raglenni newydd pob cyfle a gaiff.
Yn 2014 penodwyd Anne yn Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i ddementia ac yn 2015 daeth yn warcheidwad rhaglen ar gyfer modiwlau dementia a meddyginiaeth cartrefi gofal gyda’r Coleg Ymarfer Fferyllol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nifer o brosiectau dementia yn RMBI Care Co. gan gynnwys sut y gall yr elusen barhau orau i gefnogi preswylwyr, eu teuluoedd a’r staff heddiw ac i’r dyfodol.
o bobl yn byw gyda dementia yn y DU
o bobl yn y DU wedi derbyn diagnosis o ddementia
o bobl yn y DU ddementia erbyn 2025 gan ddisgwyl i hyn godi i ddwy filiwn erbyn 2050.
Mae risg person o gael dementia’n cynyddu o un o bob 14 yn 65+ oed i un o bob chwech o bobl yn 80+ oed.
Ffynhonnell: Y Gymdeithas Alzheimer, 2014 – www.dementiastatistics.org/statistics-about-dementia/
Defnyddir y gair ‘dementia’ i ddisgrifio symptomau nifer o wahanol afiechydon neu gyflyrau sy’n achosi dirywiad cynyddol yn yr ymennydd. Yn aml iawn mae’r newidiadau hyn yn fach i ddechrau, ond i rywun gyda dementia maen nhw’n ddigon difrifol i effeithio ar fywyd pob dydd.
Mae sawl math o ddementia, gan gynnwys:
Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddementia gan gyfrif am tua dau o bob tri achos mewn pobl dros 65 oed. Mae hefyd yn bosib cael mwy nag un math o ddementia ar yr un pryd.
Weithiau mae gan berson glefyd Alzheimer a hefyd dementia fasgwlar neu ddementia gyda chyrff Lewy, a elwir yn ‘ddementia cymysg’. Mae gan y cyflyrau hyn rai pethau’n gyffredin ond mae yna hefyd wahaniaethau pwysig rhyngddynt o ran eu heffaith ar bobl a sut y gellir eu rheoli. Mae yna hefyd glefydau prin sy’n gallu arwain at ddementia.
Pan fydd gan rywun ddementia mae’n naturiol i ni ofyn pam. Nid yw fel arfer yn bosib dweud i sicrwydd, er y bydd meddyg efallai’n gallu dweud pa ffactor(au) allai fod wedi cyfrannu ato. Gan amlaf bydd cymysgedd o ffactorau risg yn gyfrifol – y gallai rhywun fod wedi eu hosgoi neu beidio.
Rhoddir mwy o wybodaeth am ddeall y ffactorau risg hyn ar wefan y Gymdeithas Alzheimer yn – alzheimers.org.uk
Gall dementia achosi nifer o wahanol symptomau. Dyma rai o’r rhai mwyaf cyffredin:
(Ffynhonnell: Y Gymdeithas Alzheimer)
Weithiau gall pethau eraill achosi symptomau fel rhai dementia, fel haint wrinol neu ar y frest, diffyg hylif yn y corff, sgîl-effeithiau meddyginiaeth, iselder, straen neu ddiffygion fitamin.
Os sylwch ar unrhyw arwyddion neu symptomau, dylech annog y person yn garedig i gysylltu â’u meddyg teulu neu ofyn am gymorth pellach gan sefydliad priodol. Nid yw’r asesiad o ddementia posib yn cynnwys cyflyrau y gellir eu trin; nid un cam ydyw ond proses sy’n cymryd amser. Mae’n cynnwys nifer o wahanol gamau a phrofion ac yn diweddu drwy roi diagnosis. I’r person a’r bobl sy’n agos atynt mae’n siwrne ansicr, bryderus ac emosiynol iawn yn aml.
Mae pob un o gartrefi RMBI Care Co. yn gallu cefnogi pobl gyda dementia. Os oes gennych ddiddordeb mewn Cartref neilltuol, cysylltwch â’r Cartref yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth (link to list of all Homes).
Elusen gofal ac ymchwil ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr.
www.alzheimers.org.uk neu ffoniwch y Llinell Ddementia Genedlaethol ar 0300 222 11 22.
Grŵp o bobl sydd wedi dod at ei gilydd i greu cymuned dementia-gyfeillgar (DFC). www.dementiaaction.org.uk/local_alliances
Yn rhoi cyngor clir, di-dâl a diduedd ar ystod o wahanol faterion fel gofal a chymorth, arian a budd-daliadau, iechyd a symudedd.
www.independentage.org.uk neu ffoniwch 0800 319 6789.
Gall eich gwasanaethau cymdeithasol lleol helpu gyda gofal personol a gweithgareddau dydd i ddydd ar ôl asesu’r anghenion.
Bydd eich Prif Elusennwr Lleol efallai’n gallu eich cyfeirio ymlaen at gymorth a chefnogaeth leol.
Gweithiwn yn barhaus i wella ein Cartrefi er mwyn cefnogi anghenion ein preswylwyr ac unrhyw newid iddynt. Mae llawer o’n Cartrefi wedi trawsnewid gwahanol ardaloedd, prynu cyfarpar digidol ac yn trefnu gweithgareddau rheolaidd i gefnogi preswylwyr gyda dementia, gyda chymorth gan gymuned y Seiri Rhyddion a Chymdeithas Cyfeillion ein Cartrefi. Dyma rai o’r ardaloedd unigryw mewn rhai o’n Cartrefi ynghyd â gweithgareddau dementia-gyfeillgar sydd wedi eu darparu gan ein Timau Gweithgareddau.