Darparwn ofal preswyl, gofal nyrsio a chymorth dementia preswyl ac rydyn ni wedi bod yn darparu cymorth i bobl hŷn ers dros 170 o flynyddoedd.
Pan fydd person yn symud i un o’n Cartrefi, rydyn ni’n gwneud asesiad i ddeall sut fath o ofal sydd ei angen ar y person ac i weld a allwn gwrdd ag anghenion gofal yr unigolyn. Mae ein staff rheoli wedi eu hyfforddi’n ofalus i fynd â chi a’ch teulu drwy’r broses, gam wrth gam, o’r funud y cysylltwch gyda ni.
Rydyn ni’n cadw preswylwyr wrth galon popeth a wnawn. Ein nod yw cefnogi pob person i aros mor annibynnol â phosib ond gan dawelu eu meddyliau fod cymorth wrth law pan fo’i angen arnynt. Mae gan bob Cartref gegin bwrpasol gyda chogyddion a thîm arlwyo ar y safle sy’n gwneud prydau bwyd ffres a maethlon bob dydd o’r wythnos. Mae gennym hefyd Gydlynydd Gweithgareddau ym mhob Cartref sy’n trefnu cyfres o weithgareddau llawn hwyl a thripiau undydd i gynnal iechyd a lles ein preswylwyr, gan eu helpu i aros yn rhan o’u cymuned.
Gofal preswyl
Mae wedi bod yn newid mawr i’n bywydau ac mae’r staff wedi bod mor groesawgar. Nid oes unrhyw beth yn ein poeni, sy’n gysur mawr o wybod bod mam mewn dwylo mor dda
Adolygiad yn Carehome.co.uk, Devonshire Court
Nid yw symud i gartref gofal yn golygu rhoi’r gorau i’ch annibyniaeth. Yn wir, dywed llawer o’n preswylwyr ei fod wedi eu helpu i aros yn hyderus gan wybod fod cymorth a chefnogaeth ar gael. Maen nhw’n mwynhau cymdeithasol ag eraill a gwneud llwyth o wahanol weithgareddau.
Rydyn ni’n gofalu am y tasgau beunyddiol gan roi amser i’n preswylwyr fwynhau bywyd a diddordebau eraill. Gall ein tîm gofal gynorthwyo gyda gofal personol dydd i ddydd gan gynnwys gydag ymolchi, gwisgo a phrydau bwyd, a chynnig ystod o weithgareddau i helpu ein preswylwyr i gadw’n egnïol ac, yn anad dim, i gael hwyl.
Cymerwn amser i ddod i adnabod ein preswylwyr fel y gallwn greu cynllun gofal i ateb eu hanghenion; gan gynnwys eu hoff a chas bethau, diddordebau, gyrfaoedd a phrofiadau blaenorol. Mae stori pob person yn bwysig ac rydyn ni yma i helpu ein preswylwyr i barhau i gael profiadau cofiadwy ar ôl symud i un o’n Cartrefi.
Mae ein nyrsys wedi eu hyfforddi i ddarparu cymorth mwy arbenigol sy’n hybu iechyd a lles preswylwyr gydag anghenion iechyd neu ofal mwy cymhleth.
Mae’r math hwn o ofal ar gael i breswylwyr sydd angen cymorth 24 awr gan nyrs gofrestredig arnynt. Bydd asesiad yn cael ei wneud i benderfynu sut fath o ofal sydd ei angen ar berson, cyn iddynt symud i’r Cartref.
Yn RMBI Care Co., mae gennym hefyd Arweinydd Llywodraethu Clinigol Cenedlaethol sy’n hybu datblygiad strategol ein helusen, yn ogystal â rhoi cymorth clinigol i Reolwyr ein Cartrefi gan sicrhau gofal diogel ac effeithiol i’n preswylwyr.
Mae ymdeimlad o deulu yn y Cartref sy’n gwneud y gwahaniaeth i gyd.
Preswylydd yn Prince Michael of Kent Court
Mae’r cwmpeini yma’n hyfryd ac rwy’n teimlo’n rhan o grŵp cymunedol. Mae’r staff yn ddiffuant a gonest.
Preswylydd yn Prince George Duke of Kent Court.
Bydd profiad pob person sy’n byw gyda dementia’n wahanol. Ar adegau gall fod yn anodd i’r person sy’n byw gyda dementia, i’w teulu ac i’w ffrindiau.
Rydyn ni’n aelodau o’r Gynghrair Gweithredu Dementia sy’n dod â mudiadau ledled Lloegr at ei gilydd, mudiadau sy’n gweithio’n galed i wella’r canlyniadau i bobl gyda dementia. Rydyn ni hefyd yn rhan o nifer o brosiectau ymchwil ehangach i helpu i ddeall a gwella’r canlyniadau i bobl sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid.
Mae gan y rhan fwyaf o’n Cartrefi ardal benodol yn y Cartref a elwir yn ‘Tŷ Cymorth Dementia’ gyda staff wedi eu hyfforddi i roi cymorth i breswylwyr gyda dementia. Credwn yn gryf y gall pobl gyda dementia barhau i fyw bywyd egnïol a llawn. Mae ein gwasanaethau, gan gynnwys ein gweithgareddau, wedi eu gerio tuag at ofalu am breswylwyr mewn amgylchedd diogel sy’n hybu eu hiechyd a’u lles.
Cymerwn amser i ddod i adnabod pob preswylydd ac mae ein Tai Cymorth Dementia’n cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar sy’n annog hel atgofion, gan gynnwys gerddi synhwyrau, caffis a siopau melysion hen ffasiwn.
Yn RMBI Care Co., mae gennym hefyd Arbenigwr Fferyllol Dementia sy’n helpu i hybu datblygiad strategol ein helusen yn ogystal â chefnogi’r gwasanaethau dementia yn ein Cartrefi. I ddysgu mwy am ein gwasanaethau dementia, ewch i’n parth Dementia.
Arhosiad seibiant yw pan fydd person, sydd fel arfer yn byw gartref, yn dod i aros am seibiant byr yn un o’n Cartrefi.
Mae’r staff gofalu’n gwneud i chi deimlo’n gwbl gartrefol, gan gynnig paneidiau o de a chacen.
Adolygiad yn Carehome.co.uk; Prince Edward Duke of Kent Court
Mae gwahanol resymau pam y gall rhywun ddod am arhosiad byr. Gall roi amser i deuluoedd neu ofalwyr gael seibiant o’r gwaith o ofalu. Gall hefyd fod yn opsiwn da i helpu adferiad person ar ôl bod yn yr ysbyty, neu i gael profiad o sut beth fyddai byw yn y Cartref, cyn penderfynu symud yno’n barhaol.
Lleolir llawer o’n Cartrefi mewn ardaloedd prydferth; mae gan rai erddi hyfryd neu wedi eu lleoli gerllaw’r traeth sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol ar gyfer arhosiad byr.
Fel rhan o’ch arhosiad gallwch ddefnyddio ein cyfleusterau a’n gwasanaethau gofal iechyd. Bydd ein staff yn rhoi’r cymorth a’r gofal sydd ei angen arnoch i gael eich hun yn ôl ar eich traed. Cynigiwn arhosiadau byr dim ond os oes lle ar gael.
Mae angen sgiliau arbenigol, yn ogystal â thosturi a dealltwriaeth, i ofalu am rywun yn nyddiau olaf eu bywyd. Mae ein staff wedi eu hyfforddi’n ofalus i roi cymorth i breswylwyr a’u teuluoedd ar yr adeg anodd hon, i barchu a chynnal urddas person.
Gallwn ddarparu cymorth ymarferol gydag unrhyw drefniadau i helpu ein preswylwyr a’u teuluoedd i deimlo mor gyffyrddus â phosib.
Gall hyn gynnwys rhoi gwybodaeth am y newidiadau a’r arwyddion corfforol y gall person eu profi yn niwedd eu hoes ynghyd â chyngor am sut orau y gall perthnasau gynorthwyo eu hanwyliaid.
Mae pob person yn wahanol ac ymrwymwn i weithio’n agos â phob person a’u teuluoedd i ganfod beth yw eu dymuniadau a’r hyn sydd orau iddynt.
Mae gennym rai fflatiau byw’n annibynnol mewn dau o’n cartrefi gofal, yn Farnfield Court yn Croydon ac yn Devonshire Court yng Nghaerlŷr.