Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, mae preswylwyr ein Cartrefi yng Nghymru a Lloegr bellach yn gallu cael ymweliad gan un aelod o’r teulu neu ffrind, ar yr amod bod ymwelwyr yn cael yr archwiliadau iechyd a diogelwch angenrheidiol, gan gynnwys canlyniad negatif i brawf llif unffordd a’u bod yn gwisgo cyfarpar diogelu personol. Mae ein podiau ymwelwyr yn dal ar agor i gefnogi ymweliadau teulu mewn amgylchedd diogel a chyfforddus.
Rydyn ni wedi cynnig y brechiad cyntaf i’n holl breswylwyr cymwys a bydd yr ail frechiad yn dechrau cyn bo hir ym mhob Cartref. Mae dros 1,000 o aelodau staff wedi cael eu brechu hyd yma hefyd.
Mae ein preswylwyr a’n staff yn cael eu profi am Covid-19 yn rheolaidd ac erbyn hyn, mae’r Llywodraeth wedi galluogi profion i gefnogi’r rhai sy’n ymweld â’n cartrefi gofal. Mae’r holl aelodau staff yn ein Cartrefi yn Lloegr sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cael dau brawf yr wythnos gyda’r pecynnau profion llif unffordd newydd, sy’n ei gwneud hi’n bosib canfod y feirws yn gyflym ac yn gynnar. Mae ein Cartrefi yng Nghymru yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ofalus.
Pan fydd y Llywodraeth wedi lleihau’r cyfyngiadau symud rydyn ni’n bwriadu ymestyn y profion i deuluoedd i alluogi rhagor o gyswllt â phreswylwyr, oni bai fod brigiad mewn Cartref.
Ar hyn o bryd, mae’r canllawiau’n cynghori cyfnod hunanynysu o 14 diwrnod i breswylwyr newydd, ond yn sgil y brechlyn a rhagor o brofion, rydyn ni’n gobeithio gweld y cyfnod hwn yn lleihau i bum diwrnod fis Mawrth. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cefnogi preswylwyr newydd drwy brofi a hunanynysu gartref cyn iddynt ddod i un o’n Cartrefi, a fydd yn golygu cyfnod hunanynysu byrrach fyth.
Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelwch, iechyd a lles ein preswylwyr a’n haelodau staff yn ystod yr argyfwng sydd ohoni. Rydyn ni’n cynllunio’n rhagweithiol ar gyfer y gwelliannau a ddaw yn sgil y brechlyn gobeithio, a hynny dan arweiniad y Llywodraeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England. Diolch i’n mesurau cadarn ar gyfer atal a rheoli haint, mae ein Cartrefi’n gallu croesawu preswylwyr newydd, cefnogi ymweliadau gan deuluoedd a darparu teithiau o gwmpas Cartrefi. Rydyn ni hefyd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â theuluoedd ein preswylwyr er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y camau rydyn ni’n eu cymryd i gadw ein Cartrefi yn ddiogel.
Rydyn ni’n wir ddiolchgar am y gofal, sylw a’r cariad a gafodd Mam gan Ecclesholme, yn enwedig dros bedwar mis diwethaf y cyfnod clo. Rydyn ni wedi gallu siarad dros y ffôn ac mae’r Cartref wedi anfon lluniau, ond does dim byd gwell na gweld rhywun sy’n annwyl i chi yn y cnawd. Mae’r pod yn y Cartref wedi gadael i ni wneud hyn.
Perthynas yn Ecclesholme, Manceinion, Gorffennaf 2020
Roedd yn hyfryd gweld Mam, roedden ni gyd mor hapus! Mae Barford Court wedi gofalu mor dda am Mam. Mae’r ystafell ymwelwyr newydd yn rhagorol, da iawn chi a diolch yn fawr!
Perthynas i breswylydd yn Barford Court, Hove, Mehefin 2020
Mae mor wych gallu gweld fy ngwraig unwaith eto a gallu siarad! Rydyn ni wedi siarad bob dydd, ond dydy hynny ddim yr un peth. Ni allaf ddweud faint y mae cael y gofod diogel hwn yn ei olygu i ni, jyst mewn pryd ar gyfer dathlu pen-blwydd ein priodas! Mae’n fendigedig!
Preswylydd yn Prince George Duke of Kent Court, Chislehurst, Gorffennaf 2020