Ydych chi’n diffinio eich lles ar sail gallu cynnal eich perthnasoedd gyda theulu a ffrindiau? Ar sail gallu symud o gwmpas a mynd i weld llefydd o ddiddordeb yn y gymuned leol? Neu ar sail teimlo’n ddiogel gan wybod bod eich teimladau a’ch dymuniadau’n cael eu gwerthfawrogi a bod gennych ddewis a rheolaeth dros eich bywyd a faint o gymorth a dderbyniwch?
Nid oes un diffiniad o les. Fe all, ac yn wir fe ddylai pawb ddehongli lles yn wahanol gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau a’u blaenoriaethau. Gall lles ymwneud â mesurau ataliol; sut i osgoi gweld iechyd a phrosesau’r meddwl yn gwaethygu, neu drwy gryfhau ein dulliau o ymdopi. Ond gall hefyd olygu byw’n well neu heneiddio’n well a pheidio â bod yn ddibynnol ar wasanaethau gofal a chymorth.
Ein hegwyddorion lles, ynghyd â’n gwerthoedd, sy’n creu’r fframwaith ar gyfer sut y darparwn eich gofal a’ch cymorth, a’r rhain yw:
Credwn fod pob un o’r ffactorau hyn yr un mor bwysig â’i gilydd.
Yn RMBI Care Co., ceisiwn ddeall yr amcanion a’r canlyniadau sy’n bwysig i’n preswylwyr gael gweithio tuag atynt. Mae’r gofal a’r cymorth a roddwn wedi’i deilwrio i chi gael cyflawni’r amcanion hyn.
Yn y pen draw, mae lles yn bersonol i bob unigolyn a dim ond drwy ddeall beth sy’n wirioneddol bwysig i chi y gallwn eich cynorthwyo i fyw eich bywyd gorau tra byddwch gyda ni.