Ein Datganiad Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (TegACh)

Gofalu yw ein ffordd o fyw

Yn RMBI Care Co. rydym yn cefnogi pobl hŷn i fyw’n dda yn hwyrach yn eu bywydau. Rydym yn darparu gofal preswyl, gofal nyrsio a chymorth dementia preswyl mewn 16 o gartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr ac mae gennym un cartref gofal sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu. Mae ein staff yn byw yn ôl ein gwerthoedd, sef bod yn garedig, yn gefnogol ac yn ddibynadwy.

Rydym yn credu y dylai pawb allu byw a gweithio heb ofn na gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd cynhwysol i’n preswylwyr, ein staff ac unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â RMBI Care Co. Ein nod yw creu man diogel lle mae pobl yn rhannu ein gwerthoedd ac yn gallu byw’n ddilys, a byddwn yn cefnogi preswylwyr sy’n dymuno ffurfio a chynnal perthnasoedd.

Sut byddwn yn gwneud hyn?

Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i’n Hegwyddorion TegACh, mae gennym Grŵp Llywio pwrpasol ar gyfer Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae’r Grŵp yn monitro ein perfformiad ar draws y sefydliad i sicrhau bod ein gwerthoedd yn parhau i fod yn rhan o’n DNA – o’n Hymddiriedolwyr, i’r Uwch Dîm Arwain, y Tîm Rheoli, y brif swyddfa a staff cartrefi gofal, a’n preswylwyr. Mae’r Grŵp yn gyfrifol am sicrhau bod ein Strategaeth TegACh yn cael ei rhoi ar waith; bydd hyn yn ffurfio cynllun tair blynedd ac yn cynnwys nodau interim a phrosesau monitro rheolaidd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau.

Ein Hegwyddorion

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein cartrefi gofal a’n sefydliad ehangach yn lleoedd sy’n deg i bawb. Mae gennym raglen hyfforddiant i’n staff a’n hymddiriedolwyr ar Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant, er mwyn gwella ein dealltwriaeth o bwysigrwydd TegACh.   Rydym hefyd yn cyhoeddi calendr TegACh blynyddol sy’n ein galluogi i gynnal digwyddiadau a darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau crefyddol a diwylliannol, yn ogystal â diwrnodau ymwybyddiaeth allweddol.

Byddwn hefyd yn cynnal arolygon rheolaidd a dadansoddiad chwarterol o ddata ein preswylwyr a’n staff i fonitro ein perfformiad. Byddwn yn gweithio’n galetach i gael adborth gan bobl sy’n dod i gysylltiad â ni ac i ddeall profiadau pobl o fyw a gweithio gyda ni yn well. Byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  1. Cymunedau ein Cartrefi – Rydym yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym yn gyffredin ac yn dathlu ein gwahaniaethau sy’n gwneud pob unigolyn yn unigryw. Byddwn yn elwa o brofiadau bywyd amrywiol ein preswylwyr a’n staff ac yn creu lle diogel i bobl gydweithio a rhannu eu barn a’u syniadau yn rhydd.
  2. Llais unedig – Bydd ein hymddiriedolwyr a’n huwch dîm arwain yn hyrwyddo TegACh ac yn arwain ein gweithlu drwy esiampl. Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio tuag at ein gweledigaeth ac yn barod i herio neu gael ein herio mewn perthynas â syniadau neu ymddygiadau nad ydynt yn cyd-fynd â hyn.
  3. Amgylchedd dysgu – Byddwn yn cwestiynu, yn dysgu ac yn addasu i ffyrdd mwy cynhwysol o weithio a gofalu am eraill. Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â sefydliadau arferion gorau ac yn cadw ein hunain yn atebol drwy archwiliadau mewnol ac allanol. Byddwn yn cadw golwg ar ein cynnydd, yn monitro ein data ac yn sicrhau bod ein staff yn cael yr hyfforddiant cywir fel bod pob person sy’n byw ac yn gweithio yn ein cartrefi gofal yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, eu cynnwys a’u parchu.

Ein Gweledigaeth

Ein nod yw sicrhau gweithlu mwy teg, amrywiol a chynhwysol drwy sicrhau bod TegACh yn rhan annatod o bopeth a wnawn, yn ein diwylliant ac yn ein sefydliad. Byddwn yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ac yn darparu cyfleoedd dysgu i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i bawb.

Byddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â gwahaniaethu a chael gwared arno. Rydym yn disgwyl i’n holl bartneriaid a’r cyflenwyr rydym yn gweithio gyda nhw ymrwymo i’r un gwerthoedd o drin eu gweithlu ag urddas a pharch, a chydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 yn yr un modd â’n helusen. Er bod y Ddeddf yn amlinellu ein cyfrifoldebau, byddwn yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau lefel uchel o TegACh, gan ein bod yn ystyried hyn yn gyfrifoldeb moesol yn gyntaf.

Mark Lloyd, Rheolwr Gyfarwyddwr

RMBI Care Co.

Gorffennaf 2023

whois: Andy White Freelance WordPress Developer London Skip to content