Cartref Queen Elizabeth Court, Llandudno

Outside building at gardens at Queen Elizabeth Court

Your Care Rating is an independent annual survey, giving residents and their families the opportunity to provide feedback about our services.

Archwilio

Queen Elizabeth Court

Yn nythu yng nghanol pum acer o erddi hyfryd, lleolir Queen Elizabeth Court yn nhref glan môr Llandudno yng Ngogledd Cymru. Darparwn ofal preswyl, gofal nyrsio a chymorth dementia preswyl i hyd at 67 o breswylwyr.

Mae gan dîm y staff yn Queen Elizabeth Court saith mlynedd o wasanaeth ar gyfartaledd. Mae gennym siaradwyr Cymraeg rhugl i rai Cymraeg eu hiaith.

Os dewiswch fyw yn Queen Elizabeth Court, gallwch fwynhau:

  • Pum acer o erddi ac ierdydd mewnol sy’n darparu lle tawel i eistedd a mwynhau arogl y blodau. Mae’r Cartref hefyd o fewn pellter tro byr o lan y môr a thraethau tywod tref Llandudno.
  • Y Tŷ Cymorth Dementia (sydd i’w ymestyn yn 2021) sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol fel dyfeisiau llechen a byrddau hud, i gynorthwyo cyfathrebu ac ymgysylltu.
  • Gweithgareddau rheolaidd ar y safle fel ymweliadau gan ysgolion lleol, cŵn PAT, Sefydliad y Merched, Age Cymru, Tai-chi, perfformiadau gan Music for Hospital, cantorion a cherddorion rheolaidd yn ogystal â ffilmiau, cwisiau ac ali fowlio dan do.
  • Mynediad at weithgareddau a gwasanaethau allanol yn defnyddio bws-mini’r Cartref i fynd ar dripiau undydd i’r traeth a mannau hyfryd a difyr eraill.

Lawrlwytho ein llawlyfr

Lawrlwytho
Outdoor events at Queen Elizabeth Court

Gofal seibiant

Mynediad at feddyg teulu a deintydd

Mynediad at ffisiotherapydd a chiropodydd

Wi-fi ar gael

Fideo-alwadau ar gael

Ystafelloedd ymweld (diogel rhag Covid)

Agos i’r traeth

Agos at drafnidiaeth gyhoeddus



Staff

Gall Queen Elizabeth Court gefnogi hyd at 40 o bobl yn ardal breswyl y Cartref. Mae gennym naw o ofalwyr profiadol yn ystod y dydd sy’n cynnwys pum aelod o staff yn y bore a phedwar yn y prynhawn. Yn ystod y nos, mae dau ofalwr sy’n cael eu goruchwylio gan Arweinydd Shifftiau.

Yn ein Tŷ Cymorth Dementia, gallwn ofalu am hyd at saith person gyda thri gofalwr ar ddyletswydd yn ystod y dydd a dau wedi nos.

Gall ein hardal nyrsio gefnogi hyd at 20 o bobl dan reolaeth Nyrs Gofrestredig sy’n arwain tîm o bum staff gofal yn ystod y dydd a dau wedi nos.

Mae’r rhan fwyaf o’n staff gofal wedi cwblhau, neu’n gweithio tuag at, NVQ/QCF mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Mae gennym hefyd Brif Nyrs Glinigol sydd ar gael i oruchwylio a sicrhau bod y staff yn darparu gofal diogel ac effeithiol.

Mae system galw nyrs 24 awr wedi’i gosod yn ystafelloedd ein holl breswylwyr ac mae gan bob person larwm personol i’w gario er mwyn gallu galw am gymorth o gwmpas y Cartref neu’r safle.

Mae gennym Gydlynydd Gweithgareddau sy’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau yn ogystal â thripiau y tu allan i’r Cartref, i gynnal iechyd a lles ein preswylwyr.

Cofiwch y bydd lefel y gofal y bydd pob person yn ei dderbyn yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Mae hyn yn cael ei fonitro a’i adolygu’n barhaus i sicrhau bod pob person yn derbyn y lefel iawn o ofal. Gallwn weithiau addasu lefel y staffio mewn gwahanol rannau o’r Cartref i gwrdd â lefel y gofal sydd ei angen ar breswylwyr ar adegau neilltuol.


Ffioedd gofal

Lawrlwytho
Residents enjoying outdoors at Queen Elizabeth CourtResidents using magic table technology at Queen Elizabeth Court

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i fyw yn Queen Elizabeth Court, ffoniwch ein Rheolwr Cysylltiadau Busnes, Julie Roberts, ar 01492 877276 neu e-bostiwch queenelizabeth@rmbi.org.uk.

Archwilio
Conservatory at Queen Elizabeth CourtPets as Therapy activity at Queen Elizabeth Court

Y straeon diweddaraf


Cysylltwch â ni

Cartref Queen Elizabeth Court

Clarence Drive,

Craig-y-Don, Llandudno

LL30 1TR

01492 877276

whois: Andy White Freelance WordPress Developer London Skip to content