Os oes gennych ymholiad cyffredinol am y broses dderbyn, gallwch hefyd gysylltu gyda Debbie Hollands, ein Rheolwr Lleoliadau Preswyl drwy e-bostio dhollands@rmbi.org.uk a bydd yn hapus iawn i’ch helpu.
Os ydych yn barod i wneud cais, mae’r ffurflen gais y bydd angen i chi ei llenwi isod, ynghyd â’n Canllaw Cymhwysedd, lle bo hynny’n berthnasol. Os hoffech dderbyn canllawiau neu gymorth pellach ar lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch â’r Cartref sydd gennych mewn golwg a bydd y Tîm Rheoli’n hapus i’ch helpu.
Cefnogwn bobl gyda chysylltiad â’r Seiri Rhyddion, yn ogystal â phobl yn y gymuned ehangach nad oes ganddynt gysylltiad â’r Seiri Rhyddion. Lle mae gan Gartref restr aros o breswylwyr sydd am ddod i’r Cartref, rhoddir blaenoriaeth bob tro i Seiri Rhyddion a’u teuluoedd cyn belled ag y gallwn gefnogi anghenion y person. I weld rhestr o’n Cartrefi i gyd cyn llenwi ffurflen gais, ewch i’n prif dudalen Cartrefi.
Mae’r adran Rhestr Gwirio Gofal isod hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i rai sy’n ystyried y gwahanol opsiynau gofal, ynghyd â chwestiynau cyffredin.
Ffurflen Gais Preswylydd (Saesneg)
Ffurflen Gais Preswylydd (Cymraeg)
Pecyn Croeso Preswylydd (Cymraeg)
Canllaw Cymhwysedd (Saesneg)
(ar gyfer Seiri Rhyddion)
Ffurflen Prawf Cymhwysedd (Saesneg)
(ar gyfer Seiri Rhyddion)