Your Care Rating is an independent annual survey, giving residents and their families the opportunity to provide feedback about our services.
ArchwilioYn nythu yng nghanol saith acer o erddi hardd a heddychlon, lleolir Cartref Albert Edward Prince of Wales Court yn nhref glan môr Porthcawl ar hyd arfordir deheuol Cymru. Mae’r Cartref yn darparu gofal preswyl ac mae’n un o ddeg Cartref Nyrsio gennym. Mae gennym hefyd Dŷ Cymorth Dementia neilltuol a gall y Cartref dderbyn hyd at 76 o breswylwyr i gyd.
Mae gan y staff yn Albert Edward Prince of Wales Court chwe blynedd o wasanaeth ar gyfartaledd. Mae gennym bencampwyr Maeth a Meddyginiaeth yn ogystal â staff sy’n siarad Cymraeg, i gynorthwyo ein preswylwyr Cymraeg eu hiaith.
Os dewiswch fyw yn Albert Edward Prince of Wales Court, gallwch fwynhau:
Gofal seibiant
Mynediad at feddyg teulu a deintydd
Mynediad at ffisiotherapydd a chiropodydd
Wi-fi ar gael
Fideo-alwadau ar gael
Ystafelloedd ymweld (diogel rhag Covid)
Agos i’r traeth
Gall Albert Edward Prince of Wales Court gefnogi hyd at 49 o bobl yn y ddwy ardal breswyl yn y Cartref. Yn Adams Morgan a’r fflatiau, mae gennym chwe gofalwr profiadol yn ystod y bore a phump yn y prynhawn. Yn ystod y nos, mae dau ofalwr ac mae’r timau i gyd yn cael eu cefnogi gan Arweinydd Shifftiau. Yn Northway, Hughes ac Ashe, mae gennym saith gofalwr yn y bore a chwech yn y prynhawn.
Yn ein Tŷ Cymorth Dementia gallwn gefnogi hyd at 13 o bobl gyda phedwar gofalwr ar ddyletswydd yn y bore a phedwar yn y prynhawn. Yn ystod y nos, cefnogir ein preswylwyr gan Arweinydd Shifftiau a dau ofalwr.
Gall ein hardal nyrsio gefnogi hyd at 20 o bobl dan reolaeth Nyrs Gofrestredig sy’n arwain tîm o bump staff gofal yn y bore, pedwar yn y prynhawn a dau yn ystod y nos.
Mae’r rhan fwyaf o’n staff gofal wedi cwblhau, neu’n gweithio tuag at, NVQ/QCF mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae gennym hefyd ddau Is-Reolwr Clinigol sydd ar gael i oruchwylio a sicrhau bod y staff yn darparu gofal diogel ac effeithiol. Mae system galw nyrs 24 awr wedi’i gosod yn ystafelloedd ein holl breswylwyr.
Mae gennym ddau Gydlynydd Gweithgareddau sy’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau yn ogystal â thripiau i ardaloedd cyfagos, i gynnal iechyd a lles ein preswylwyr.
Cofiwch y bydd lefel y gofal y bydd pob person yn ei dderbyn yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Mae hyn yn cael ei fonitro a’i adolygu’n barhaus i sicrhau bod pob person yn derbyn y lefel iawn o ofal. Gallwn weithiau addasu lefel y staffio mewn gwahanol rannau o’r Cartref i gwrdd â lefel y gofal sydd ei angen ar breswylwyr ar adegau neilltuol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i fyw yn Albert Edward Prince of Wales Court, ffoniwch ein Rheolwr Cysylltiadau Busnes, Donna Griffiths, ar 01656 785311 neu e-bostiwch albertedward@rmbi.org.uk.